Gwybodaeth
Amseroedd Ysgol
Clwb Brecwast - 8.20y.b - 8.45y.b
Bore - 8.55y.b - 12.15y.p
Prynhawn - 1.05y.p - 3.05y. p.
Clwb ar ol Ysgol - 3.05y.p - 5.30y.p (Yn Ysgol y Babanod - drws nesaf)
Goruchwylir y disgyblion ar safle'r ysgol deng munud cyn ac ar ol oriau'r ysgol.
Gofynnwn y garedig i chi beidio a dod/danfon eich plentyn i'r ysgol cyn 8.40y.b. oni bai ei f/bod yn mynychu'r clwb brecwast.
Dylir gwneud pob ymdrech i sicrhau fod eich plentyn yn dod i'r ysgol yn brydlon.
Mae’r ysgol hon yn:
- Cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
- Cynnig awyrgylch hapus, sy’n annog y plentyn i ddysgu.
- Rhoi pwyslais ar ddatblygiad y plentyn fel unigolyn ac ar lwyddiant academaidd a dysgedig.
- Anelu at safon uchel o gwrteisi, gwisg ac ymddygiad.
- Cynnig cyfleusterau ac adnoddau rhagorol.
- Cynnig llawer o weithgareddau allgyrsiol.
- Cynnig Clwb Brecwast pob dydd. (8.20 yb)
- Cynnig Clwb ar ôl Ysgol pob dydd. (3.05 - 5.30 yp)
LLEOLIAD
Adeiladwyd yr ysgol yn 1952. Saif ynghanol caeau chwarae ar ochr ddwyreiniol pentref Llangennech, Sir Gaerfyrddin. Mae traffordd yr M4 (cyffordd 48) ond rhyw hanner milltir i ffwrdd. Ar gyfer defnyddwyr SAT/NAV y côd post yw SA14 8YB